Bywnans Ke Published
  Home / Tre Library Attempt to Suppress CLB Edition Kesva an Taves  
 
Mae Bwrdd yr Iaith Gernyweg yn croesawu cyhoeddiad drama Gernyweg ganoloesol gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
 
The Cornish Language Board welcomes the National Library of Wales' decision to publish a mediaeval Cornish drama.
"Mae ysgolheigion Cernyw a Chymru yn gytûn am yr angen i fynd â thrysorau ein llên i gynulleidfa letach," meddai llefarydd ar ran Kesva an Taves Kernewek (Bwrdd yr Iaith Gernyweg) heddiw. "Roedd nifer ohonynt yn falch i gefnogi lawnsiad llyfr Cernyweg newydd gan y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth nos Wener." "Cornish and Welsh scholars fully support any initiative that brings Cornish cultural treasures to a wider audience," said a spokesman for Kesva an Taves Kernewek (the Cornish Language Board) today. "They were delighted to join forces in supporting the launch of a new Cornish book by the National Library of Wales in Aberystwyth on Friday evening."
Roedd Graham Thomas yn cyhoeddi'i argraffiad ysgolheigaidd o Bewnans Ke (Buchedd Cai), drama Gernyweg ganoloesol sydd ag Arthur ymhlith ei chymeriadau. Er na wyr neb sut y daeth y llawysgrif i Aberystwyth, mawr oedd y dathlu yng Nghernyw pan ddaeth y darganfyddiad i olau dydd yno. "Llongyfarchwn Graham Thomas ar ei gamau cyntaf ar lwybrau ein llên," meddai'r llefarydd, "ac edrychwn ymlaen yn frwd at ei groesawu i Gernyw ryw ddydd." The book being launched was Graham Thomas' edition of Bewnans Ke (The Life of St. Kea), a mediaeval Cornish play whose characters include King Arthur. Although the circumstances of the manuscript's arrival in Aberystwyth remain obscure, its discovery was welcomed in Cornwall when the story eventually broke there. The CLB spokesman added: "I heartily congratulate Graham Thomas on his first venture into Cornish scholarship. We look forward to seeing him in Cornwall one of these days."
Eisoes mae'r Bwrdd wedi cyhoeddi argraffiad poblogaidd o'r ddrama, a bu honno'n llwyddiant ysgubol. "Ar yr un pryd," meddai'r llefarydd, "gwyddom fod angen fersiwn fwy academaidd â'r sefydliadau tu allan i Gernyw. Mae'r Bwrdd a'r Llyfrgell am gynnal breichiau'i gilydd o hyn allan." The CLB's own popular edition of the play has been enthusiastically received, and is already in its second edition. "At the same time, we are delighted to see a more academic edition available for university libraries outside Cornwall," said the spokesman. "Both the CLB and the NLW are glad to recognize one another's roles as complementary. "
Pwysleisiodd y llefarydd nad oedd y Bwrdd yn dal dig am ymgais y llynedd i wahardd cyhoeddi'r ddrama yng Nghernyw. "Nid oedd bai o gwbl ar y Llyfrgell," meddai. "Ar hyn o bryd, mae carfan wrth-Gernyweg yng Nghernyw'i hun yn ceisio tanseilio gwaith y Cernywiaid Cernyweg i hybu'u hiaith. Digwyddodd yr ymgais i wahardd y llyfr ychydig cyn cynhadledd bwysig ar dynged yr iaith. Diolch byth, roedd rhai ffigyrau amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru yn ddigon effro i atal camddealltwriaeth rhag troi'n drychineb. Ac roedd proffesiynoldeb cyfryngau Cymru yn allweddol hefyd." The CLB spokesman emphasized that they bear no ill-will against the NLW for last year's attempt to ban the publication of the play in Cornwall. "The NLW was not to blame," he said. "Cornish-speakers are at last making advances for their language, and a tightly-knit bigoted faction in Cornwall is furiously trying to undermine this. The attempt to ban the Cornish publication came just before a vital conference on the future status of our language. Thankfully, a number of prominent figures in Welsh life were alert enough to prevent a misunderstanding from developing into a disaster. And, of course, credit is due to the professionalism of the Welsh media."

Manylion pellach / Further details:
Dr. Ken George
0779 1240169
01503 250658
ken.george@yahoo. co.uk


An wiasva-ma yw desedhys dhe / This site is located at : http://www.howlsedhes.co.uk/bywnanske/nlwed
Gwrys yn Kernow gans / Created in Cornwall by : Howlsedhes Services & Marconatrix Designs
owth usya medhelwara rydh yn tien / entirely using free software.

Contact / Kestevewgh kam@howlsedhes.co.uk  Phone / Pellgewsewgh 01503 250128